English
 
theknights
 

Beth sydd ymlaen...

Gallwch ymweld â’r Adran Da Byw a gweld gwartheg, defaid a geifr o bob math yn cael eu harddangos a’u beirniadu gan rai o’n gwarthegyddion gorau.

Crwydrwch ychydig bach pellach i weld y Ceffylau Gwedd gwych – cewri addfwyn byd amaeth.

Mae’r adran Ceffylau Ysgafn gyda 9 o gylchoedd gwahanol i’w gwylio yn cynnig gwledd o farchogaeth.

 

Arhoswch dipyn i edmygu’r clasuron yn ein hadran Hen Gerbydau – ceir, tractorau, peiriannau ac offer ffermio’r oes o’r blaen.

Mae’r adran Blew a Phlu yn dangos yr amrywiaeth enfawr o ieir, hwyaid, colomennod a chwningod – ac mae’n cynnig cyfle i’r plant ddangos eu hoff anifeiliaid anwes hefyd.

Ewch drosodd i’r adran Cefn Gwlad a gwyliwch fedrusrwydd y turniwr turn polyn a gosgeiddigrwydd yr arddangosiad cyfrwyau untu.

Dysgwch y ffordd iawn i drin gwn awyr a siaradwch efo’r arbenigwyr ym maes cadwraeth a stiwardiaeth cefn gwlad.

Cymerwch amser i fynd i siopa – mae mwy na 250 o stondinau yn y Sioe, yn cynnwys y Neuadd Fwyd fendigedig. Galwch i mewn a gwyliwch y cogydd o fri Dai Davies a’i dîm yn paratoi rhai o’r bwydydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig – ac efallai y cewch chi damaid bach hyd yn oed!

Dewch i edmygu’r adran wych Celfyddyd Blodau a Garddwriaeth a rhyfeddu at y cynhyrchion hynny sydd yr union yr un fath â’i gilydd, yna i goroni’r diwrnod, bachwch eich lle yn y Cylch Mawr i fwynhau Tîm Arddangos 'Knights of the Damned' yn rhoi eu ceffylau drwyddi!

Mae Sioe Dinbych a Fflint yn un o sioeau undydd mwyaf Cymru. Mae’n rhaid i chi fynd!