English
 
 

Hen Beiriannau

Yng nghylch Edward Jones caiff y sawl sy’n hoff o Hen Beiriannau a’r Clasurol adloniant ar hyd y dydd. Daw enghreifftiau prin ac anghyffredin i ymuno â rhai o selogion y diwydiant fel y Ffyrgi fach. Yn 2005 mae’r adran am roi sylw arbennig i ‘Dractorau a pheiriannau’ a chawn flas ar sut y datblygodd pethau o’r Ceffyl Gwedd urddasol i’r datblygiadau a ddaeth gyda pheiriannu y tu ôl i dractorau.

Mae Hen Geir a Cheir Clasurol hefyd yn rhan bwysig o’r arddangosfa – cewch sgwrs â’r perchnogion i glywed straeon bendigedig am gychwyniad y cerbydau maen’ nhw wedi eu hatgyweirio neu ofalu amdanynt mor ardderchog.

Ewch am dro i adran y Peiriannau Sefydlog – mae tuchan cyson y peiriannau hyn yn siarad cyfrolau am y fecanwaith gynnar oedd yn amhrisiadwy i nifer o lefydd gwledig.

Mae beiciau modur ac ambell feic hyd yn oed yn yr adran hefyd! Gan fod offer llaw ac eitemau eraill o’r gorffennol yn cael eu harddangos hefyd, mae’r adran hon yn sioe o fewn y Sioe a gallai gymryd cryn amser i chi ymweld â hi!