Stondinau Masnach

Gyda tua 250 o stondinau yn y Sioe bob blwyddyn, mae’r ardal Fasnachu’n cynnig siopa o bob math i’r ymwelwyr a chyfle da am fusnes i’r Masnachwr.
Dyma sylwadau rhai o’r Masnachwyr:
“Roedd staff y swyddfa a’r maes yn hawdd gwneud â nhw ac yn barod eu cymorth”
“Rydan ni wastad yn cael diwrnod da yn Sioe Dinbych a Fflint – mae’r lle wedi ei osod allan yn ardderchog”
“2002 oedd y tro cyntaf i ni ac mae’n ddyddiad sefydlog ar ein calendr bellach”
a gan rhai o’r ymwelwyr:
“...amrywiaeth dda, a nwyddau o ansawdd da....”
“Dwi’n gwneud y rhan fwyaf o fy siopa ‘Dolig yn y Sioe!”

Gallwch siopa am bopeth o dractorau a pheiriannau, lloriau concrid newydd neu borthiant i’ch anifeiliaid, i grisial cywrain ac anrhegion o ansawdd wedi’u gwneud â llaw neu waith celf gwreiddiol ar faes Sioe Dinbych a Fflint. Mae yna rai’n darparu gwybodaeth megis cyfreithwyr, a chyfleon i drafod anghenion addysgol eich plant hefyd. Mae’r gosod allan yn hawdd i’w ddilyn ac o gymorth i sicrhau nad ydych yn mynd heibio unrhyw stondin wrth i chi fynd o amgylch.

A phan fyddwch wedi gorffen siopa, gallwch fynd draw i’r Ffair a mwynhau rhai o’r reidiau gwyllt a chyflym diweddaraf ar gyfer y rhai dewraf, neu rywbeth ychydig yn fwy hamddenol ar gyfer y rhai llai mentrus.
Cysylltwch â rhai o’r Masnachwyr ar ôl mynd adref drwy gysylltu â’n dalen gyswllt – neu os na fyddan nhw yno, ffoniwch ni neu galwch yn y swyddfa am wybodaeth.
Yma i’ch helpu chi

Linda Brooks-Roberts -Ysgrifenyddes y Gymdeithas a Glyn Evans - Rheolwr Maes y Sioe
Er mwyn gweld yr Archeb Sefydlog efallai y bydd rhaid i chi lawr lwytho Adobe Acrobat Reader.



