English
 
 

Neidio ceffylau

Mae dau gylch llawn amser a 2 brif gystadleuaeth yn y Prif Gylch yn cynnig dewis eang o gyfleon i weld Neidio ceffylau yn y Sioe. Yng Nghylch y Fflint bydd cystadlaethau i Ymgeiswyr Newydd, Newyddian Prydeinig Iau Rownd 1af, Darganfyddwr Iau JC/JD, Newydd-ddyfodiaid Iau Rownd 1af a Chwpan yr Aelodau Iau Rownd 1af – y cyfan wedi eu tadogi i’r B.S.J.A.

Yng Nghylch Dinbych y drws nesaf gallwch weld Newyddian Prydeinig Hŷn Rownd 1af, Darganfyddwr Hŷn Rownd 1af, Newydd-ddyfodiad Hŷn Rownd 1af, Cwpan 1.10m yr Aelodau Rownd 1af a Rownd 1af yr Heliwr llwynogod Hŷn.

Yn y Prif Gylch, cewch wylio rhai o enwogion y byd Neidio Ceffylau yn mynd i’r afael â Phŵer a Chyflymder neu Dreialon Rhyngwladol yr Ardal. Cewch weld y sgiliau a’r manylder sydd ganddynt wrth iddyn nhw fynd â’u ceffylau heini dros, o amgylch a thrwy droeon y cyrsiau penigamp hyn.

 Llawr lwytho ffurflen gais


Er mwyn gweld y Ffurflen Gais fe allech orfod llawr lwytho copi o Adobe Acrobat Reader.