English
 
 

Dod yn aelod i Sioe Awst 17fed 2006

Mae dod yn aelod o Gymdeithas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint yn gwneud i ffwrdd ag unrhyw ffwdan ar ddydd y Sioe, ac yn golygu y gallwch ddod draw a mwynhau eich hunain.

Mae yna bedair lefel o Aelodaeth er mwyn sicrhau bod eich opsiynau i gyd wedi eu hystyried – Sengl, Deuol, Is Lywydd a Ieuenctid.

Mae plant o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim i’r Sioe, yna o bump i bedair ar ddeg maen nhw’n Blentyn, yna o bymtheg i ddeunaw dônt yn Ieuenctid. Caiff pob Aelod fynediad am ddim i’r Sioe a’r hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol ac i ethol Swyddogion ac Aelodau o’r Pwyllgor Rheoli. Dydy’r hawl pleidleisio ddim ar gael i Blant na’r Ieuenctid.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi manylion y manteision sydd yna ar bob lefel o Aelodaeth:

Is Lywydd £30
Un tocyn mynediad Is Lywydd ac un Gwestai Is Lywydd, yn ogystal â dau docyn Plentyn. Caniatâd parcio un car yn y tu blaen, mynediad anghyfyngedig i ardal yr Is lywyddion ger y Prif Cylch, gan gynnwys y bar a’r ardal fwyta a gwahoddiad i dderbyniad diodydd amser cinio Llywydd y Sioe.

Does dim rhaid i chi fod yn Aelod cyn dod yn Is Lywydd, a gall Aelod presennol uwchraddio unrhyw bryd.

Aelodaeth Ddeuol £20
Dau docyn Aelod ac un tocyn Plentyn. Caniatâd parcio un car yn y tu blaen a mynediad anghyfyngedig i ardal yr Aelodau ger y Prif Gylch, gan gynnwys y bar a’r ardal fwyta

Aelod Unigol £10
Un tocyn Aelod a chaniatâd parcio un car yn y tu blaen. Mynediad anghyfyngedig i ardal yr Aelodau ger y Prif Gylch, gan gynnwys y bar a’r ardal fwyta

Aelod Ieuenctid £5
Hyd at 18 oed. Un tocyn mynediad Ieuenctid a mynediad anghyfyngedig i ardal yr Aelodau ger y Prif Gylch a’r ardal fwyta.

Gall pob Aelod o’r Gymdeithas fanteisio ar dâl ymgeisio is i gystadlaethau, ceir manylion am hyn yn y catalog ar gyfer y gwahanol adrannau. Rhaid tanysgrifio tâl aelodaeth erbyn y 1af o Ionawr bob blwyddyn.

Dalier sylw: Rhoddir cyfyngiad amser o 10.30 y.b. ar fore’r Sioe ar y cyfleusterau parcio blaen oherwydd ystyriaethau Iechyd a Diogelwch ar ddisgresiwn Cyfarwyddwr Anrhydeddus Maes y Sioe.

Er mwyn dod yn aelod, gallwch naill ai anfon siec yn daladwy i Gymdeithas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint Cyf. i swyddfa’r Gymdeithas yn 1 Cross Street, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 7LP, gan fanylu ar y lefel o Aelodaeth yr hoffech ei chael, neu lawr lwytho ffurflen archeb sefydlog a’i hanfon i’r un cyfeiriad.

 Llawr lwytho archeb sefydlog


Er mwyn gweld yr Archeb Sefydlog, gallech orfod llawr lwytho copi o Adobe Acrobat Reader.