Cymraeg
 
 

Anifeiliaid

Mae’r Sioe Sir hon yn arddangos cannoedd o anifeiliaid sydd wedi eu magu’n lleol ac o’r ansawdd orau o’r ddau du i Glawdd Offa. Bydd y Beirniaid pennaf yn rhoi eu llinyn mesur ar rai o’r anifeiliaid gorau sy’n cael eu harddangos gan ffermwyr hyddysg ac arddangoswyr blaengar – a dyma graidd Sioe Dinbych a Fflint.

Yn yr adran Wartheg, gallwch weld Holsteins, Jerseys, Shorthorn ac Ayrshires yn yr adran Laeth. Bydd y Gwartheg Duon Cymreig yn brwydro am bwyntiau yn rownd ragbrofol cystadleuaeth ‘Tarw a Benyw y Flwyddyn’. Gallwch weld yr Hereford traddodiadol ochr yn ochr â’r Charolais Prydeinig, Limousin, Belgian Blue a’r Simmental yn arwain at adran yr Eidion Masnachol.

Mae’r bugeiliaid a’r bridwyr gorau’n arddangos eu cynnyrch gorau yn ein hadran ddefaid ardderchog – Defaid Mynydd Cymreig – rhai Du a Gwyn, y Biwla a’r defaid Jacob trawiadol, Suffolks, Border Leicester, Blue Faced Leicester, Llŷn, Texel, Charollais Prydeinig, Yr Half-Bred Cymreig, y Mwls Cymreig, y Greyface Dartmoor Prin ac amryw o rai eraill o fewn adran yr ‘Unrhyw frid arall’. 100’oedd o ddefaid o bob lliw a llun yn cael eu harddangos gan fugeiliaid mor ifanc â phedair neu bump oed!

Gallech hefyd weld rhai anifeiliaid anarferol – mae’r alpacas a’r byffalos dŵr hyd yn oed yn ymwelwyr cyson â’r sioe hon, ynghyd â myn geifr ac eraill – mae ffermio wedi newid gryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf! Mae cewri annwyl y Sioe, y Ceffylau Gwedd yn cloi’r ardal brysur a diddorol hon.

Pe hoffech arddangos eich anifeiliaid yn y Sioe, ffoniwch rŵan am Gatalog ar 01352 712131 neu gallwch lawr lwytho ffurflen gais o’r adran hon.

 Llawrlwytho Ffurflen Gais

Er mwyn gweld y Ffurflen Gais fe allech orfod llawr lwytho copi o Adobe Acrobat Reader.