English
 
 

Ceffylau Ysgafn

Gyda bron i 1,000 o geffylau o bob siâp, maint a lliw, mae’r adran Geffylau Ysgafn fel Sioe o fewn y Sioe. Dangosir ceffylau hela ar gyfer marchogaeth, magu a gweithio ochr yn ochr ag Arabiaid – pur, Eingl a rhan-frîd. Mae plant o 3 oed i fyny yn arddangos eu sgiliau trin ceffylau arbennig gyda Merlod Marchogaeth sydd wedi eu hyfforddi’n dda. Mae’r bridiau Cymreig – adrannau A, B, C a’r Cobiau adran D yn dangos eu hunain i’r gynulleidfa eiddgar. Yn eu cyflwr ‘naturiol’, mae’r bridiau Mynydd a Gweundir yn dangos yr amryfal fathau o geffylau a merlod a ddefnyddir yn y DU heddiw. Profwch y tensiwn yng nghylch y Ceffylau a’r Merlod Lliw wrth i’r arddangoswyr geisio am le anrhydeddus yn Sioe Ceffyl y Flwyddyn yn yr Hydref. Gyda’r ceffylau Shetland, Palomino, Ceffylau Marchogaeth a Merlod Magu, mae yna rywbeth at ddant pawb yn ardal arddangos y Ceffylau Ysgafn.

Os yw gyrrau Car a Cheffyl yn apelio mwy atoch, camwch yn ôl i oes osgeiddig a moethus, a chrwydrwch at Gylch Clwyd i wylio’r dosbarthiadau Gyrru Preifat yn cael eu Beirniadu, neu, arhoswch ychydig yn hwy, a chewch eu gweld yn rhoi tro o amgylch y Prif Gylch ar gyfer beirniadu’r Concours d’Elegance – pa un sydd fwyaf gosgeiddig ac yn gwneud llun da. Pleser, gwerth eu gweld a medrus dros ben.

 Llawr lwytho ffurflen gais


Er mwyn gweld y Ffurflen Gais fe allech orfod llawr lwytho copi o Adobe Acrobat Reader.