English
 
 

Garddwriaeth, Celfyddyd Blodau a Mêl

Mae’r babell Garddwriaeth, Celfyddyd Blodau a Mêl yn llawn arddangosfeydd y byddwn i gyd am eu hefelychu.

Gyda dosbarthiadau i’r rhai Iau wneud Gerddi Bychain, Anifeiliaid Llysiau, Gludwaith o Ddeunyddiau Planhigion a chyflwyno Ffiol o Flodau, gall rhai dan 16 oed chwarae rhan fawr yn yr ardal hon, a does yna ddim tâl ymgeisio ar gyfer eu harddangosion!

Drwy’r llysiau gwych a’r blodau hardd cawn weld cynnyrch gorau’r haf wedi eu harddangos gan ein garddwyr ymroddgar.

Ewch drwy’r adran Gelfyddyd Blodau, a chewch ryfeddu at sgiliau a doniau wrth i’r amrywiol themâu gael eu dehongli drwy gyfrwng blodau.

Galwch yn adran y Mêl a rhyfeddu at brysurdeb cwch gwenyn go iawn a dysgu am y sgil o reoli’r gweithwyr bach diwyd yma.

Ffoniwch ni ar 01352 712131 am gatalog o’r dosbarthiadau a rhowch gynnig arni!