Cymdeithas Amaethyddol Dinbych a Fflint
~ hanes byr

Mae gwreiddiau’r Gymdeithas yn y cyfnod pan ddigwyddodd gwelliannau mawr mewn ffermio, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Daeth Gogledd Cymru dan fwy a mwy o ddylanwad amaethyddiaeth mwy datblygedig Lloegr a’r Rhyfeloedd Napoleolaidd, gyda bygythiad newyn a symbyliad prisiau uchel, yn arwain at ddiddordeb mewn arbrofi amaethyddol.
Daeth yn ffasiynol i’r tirfeddianwyr pwysig gymryd diddordeb mewn dulliau ffermio newydd. Ceisiodd Syr Watkin Williams-Wynne o Wynnstay dyfu hopys yn Sir Ddinbych a gwella Brîd Gwartheg Meirionydd drwy gyflwyno Teirw’r Ucheldir. Cynigiodd Syr Stephen Glynne o Benarlâg wobrau i’w denantiaid am lwyddo i reoli draeniad braenarau yn llwyddiannus, a thyfu maip, a daeth John Wilkinson, y dyn trin haearn o Frymbo, â’r peiriant dyrnu cyntaf i Ogledd Cymru.
Yn 1796 sefydlodd Syr Watkin Gymdeithas Amaethyddol Wrecsam. Cynhaliwyd sioeau gwartheg a defaid yn Wynnstay yn flynyddol, gyda gwobrau am ffermio da a “gwledd anferthol ble byddai pum neu chwe chant o wahoddedigion yn trafod cnydau a gwrteithiau ac yn cynnig llwnc destun pwrpasol”. Ymwelodd Thomas Coke o Holkham, Norfolk (1752 – 1842) arloeswr mewn dulliau ffermio newydd ag un o’r rhain.
Cychwynnwyd Cymdeithasau eraill yng Nglyn Dyfrdwy ac yn Nyffryn Clwyd yn 1808, a ffurfiwyd Cymdeithas Amaethyddol Sir y Fflint yn 1817.
Mae’n debyg bod Cymdeithas Amaethyddol Dinbych a Fflint wedi dod â nifer o’r sefydliadau bychain hyn at ei gilydd. Ffurfiwyd hi mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Llew Du yn yr Wyddgrug ar 24ain Gorffennaf, 1839, gyda C.B. Trevor-Roper yn cadeirio. Sefydlwyd hi er mwyn “hybu Amaethyddiaeth ac annog Diwydiant” yn Siroedd Dinbych a Fflint yn unig, ond o 1842, ymestynnwyd yr aelodaeth i ardal Edeyrnion ym Meirionydd.
Roedd yr aelodau i dalu tanysgrifiad o gini, ond roedd y rhai oedd yn dal tir ac yn talu llai na £60 o rent i dalu hanner gini. Rhestrir saith deg saith o danysgrifwyr yng nghofnodion y Gymdeithas yn 1839. Roedd bron pob un yn dirfeddianwr amlwg a thanysgrifiodd amryw fwy na’r lleiafswm; rhoddodd Syr Watkin £50 ac Esgob Llanelwy, a thalodd Philip Davies-Cooke o Gwysaney, Syr Stephen Glynne o Gastell Penarlâg, Yr Arglwydd Kenyon ac F.R.West o Gastell Rhuthun i gyd £10 yr un.Trefnodd y Gymdeithas gystadlaethau aredig lleol a thalu gwobrau i ddynion â’r ffermydd wedi eu trin orau, i’r rhai oedd yn llwyddiannus gyda chnwd arbennig, neu oedd yn cynhyrchu mathau newydd o beiriannau ac hefyd i weithwyr a llafurwyr oedd wedi rhoi oes hir o wasanaeth a magu’r teuluoedd mwyaf ar ddim ond ychydig.

Mae’r llyfr cofnodion yn darparu cyfoeth o fanylion yn y dyddiau cynnar:
"I Mr Robert Jenkins o Plasyward ger Rhuthun am y fferm o 150 acer a mwy sydd wedi ei thrin orau . . . darn o blât neu £10”. (1840)
"I Mr John Humphreys o Berse ger Wrecsam am draenio 10 acer o dir yn y dull gorau a chydnabyddedig fel tenant a deiliad ....£7” (1840)
"I Mrs Williams o Blas Llangwyfan ger Dinbych am blannu’r nifer mwyaf o lwyni drain ......darn o blât neu £10”. (1840)
"I Mr John Catherall o’r Wyddgrug am y cnwd gorau o Faip Sweden nid llai na saith acer ..... Medel y Gymdeithas”. (1840)
Erbyn 1843 cyfeiriwyd at gyfarfod blynyddol y Gymdeithas ble, cyflwynwyd y gwobrau, fel y Sioe. Mae’r Sioe Flynyddol, yr ystyriwn ni heddiw yn brif fusnes y Gymdeithas, wedi ei chynnal dros y rhan fwyaf o’r blynyddoedd wedyn, ar wahân i’r adegau pan rwystrwyd hi gan glwyf neu ryfel.
Mae cofnodion y Gymdeithas, gan gynnwys llyfrau cofnodion ar gyfer 1839 a chyfres ardderchog o gatalogau’r sioe o 1888 wedi eu cadw yn Swyddfa Gofnodi Sir y Fflint yn yr Hen Reithordy, Penarlâg, ble cânt eu defnyddio ar gyfer gwaith ymchwil gan haneswyr.
Byddai Archifydd y Sir yn falch o glywed am hen lyfrau cyfrifon fferm, llythyrau, lluniau neu gofnodion amaethyddol eraill o’r ddwy sir, a byddai’n ddiolchgar pe gallai unrhyw un sy’n gwybod am fodolaeth cofnodion o’r fath gysylltu ag ef.




