English
 
 

Rheolau Cyffredinol

Cymdeithas Amaethyddol Sir Ddinbych a Fflint Cyf.

  1. Ni chynigir unrhyw Wobrau o gronfa’r Gymdeithas heb fod caniatâd wedi ei roi.
  2. gan Bwyllgor y Rheolwyr, a deil y Gymdeithas yr hawl i atal unrhyw Wobr neu Wobrau pan fo’r Beirniaid yn dweud nad ydynt yn haeddiannol. Mae pob dosbarth yn agored i’r Deyrnas Unedig oni nodir yn wahanol.
  3. Mae’n rhaid i bob Gwobr Arbennig neu Gwpanau a gynigir i’r Gymdeithas, ac a ddaw’n eiddo i’r Gymdeithas, a Chwpanau a enillwyd mewn Sioeau blaenorol, gael eu rhoi yn ôl o fewn un mis i’r Sioe.
  4. Dyfarniad wedi ei arwyddo gan Feirniaid yn unig a dderbynnir gan y Gymdeithas fel tystiolaeth bod gwobr wedi ei rhoi.
  5. Enillwyr y wobr gyntaf a’r ail yn unig, mewn Dosbarthiadau addas, sy’n mynd yn eu blaenau am Bencampwriaeth yr Adran a’r Prif Barêd.
  6. Bydd penderfyniad y Beirniaid ym mhob achos yn derfynol, oni bai fod twyll, camliwiad, neu dorri’r rheolau’n digwydd. Pe bai yna unrhyw anghytuno ynglŷn ag uchder unrhyw anifail sy’n cael ei arddangos, bydd rheolau’r Joint Measurement Scheme Ltd. ar y pryd (gellir cael copi gan Ysgrifennydd y Joint Measurement Scheme Ltd., British Equestrian Center, Kenilworth, CV8 2LR,) yn cael eu dilyn.
  7. Pe bai yna unrhyw anghytuno ynglŷn ag oedran unrhyw anifail sydd wedi ei roi mewn cystadleuaeth i oedran penodol, bydd y Stiward yn galw ar y Milfeddyg sydd wedi ei enwebu gan y Gymdeithas a bydd ei benderfyniad ef yn derfynol (oni bai fod yr anifail wedi ei dderbyn i gael ei Gofrestru ar Lyfr Gyr, Gre neu Braidd ei Gymdeithas), a bydd yr anifail hwnnw, os nad yw’n gymwys ar gyfer y dosbarth yn cael ei ddiarddel.
  8. Mae’r Gymdeithas, drwy ei Phwyllgor Rheoli, yn cadw’r hawl i rwystro unrhyw gystadleuwyr heb orfod cynnig esboniad dros wneud hynny, ac i ddileu neu roi’r gorau i unrhyw ddosbarth neu adran ar unrhyw adeg cyn neu ar ddiwrnod y Sioe Flynyddol, os oes yna lai na thri’n cystadlu.
  9. Rhaid i’r holl stoc sy’n cystadlu fod yn eiddo dilys i’r Arddangoswr a rhaid iddynt fod yn eiddo iddo ac yn ei feddiant ers o leiaf DAU FIS cyn diwrnod y Sioe, oni nodir yn wahanol. Argymhellir fod gan bob Arddangoswr yswiriant ac atebolrwydd cyhoeddus digonol ar gyfer eu stoc.
  10. Ni chaniateir gorchuddio tethi unrhyw anifail yn ystod y Sioe na “ffugio’r” pwrs mewn unrhyw fodd chwaith. Grwpiau – dylai anifeiliaid fod wedi eu cyflwyno’n barod a’u dangos mewn dosbarthiadau eraill.
  11. Rhaid i bob tarw dros 10 mis oed fod â modrwy yn ei drwyn, ac ynghlwm wrth staff neu gadwyn, neu chân nhw ddim mynediad i’r cae. Ni chaiff wartheg fynediad heb rwymyn i’w clymu wrth byst. Gweler yr hysbysiad diogelwch.
  12. Ni ddylai’r stoc a ddangosir arddangos unrhyw beth sy’n dynodi pwy yw’r perchennog tra bo’r beirniadu’n digwydd, dim ond tocyn rhif ar gyfer pob cystadleuydd, fydd yn cael eu hanfon allan gan yr Ysgrifennydd cyn y Sioe ac yn cyfateb i’r rhif yn y Catalog.
  13. Ni chaniateir cyfnewid anifeiliaid wedi’r dyddiad cau, ar wahân i’r Dosbarthiadau Neidio yn ôl rheol 73.9 y B.S.J.A.
  14. Rhaid i bob person sy’n gyfrifol am Geffylau, Gwartheg, a.y.y.b. ar ran yr Arddangoswr fod yn gyfarwydd â’r amrywiol fân dasgau sydd angen eu gwneud i’r Stoc sydd dan eu gofal, a rhaid iddynt fod yn barod i ddod â’u hanifeiliaid allan pan fo’r Stiwardiaid yn gofyn iddynt wneud hynny. Cyfrifoldeb yr Arddangoswyr yw sicrhau fod personau cymwys yn tywys eu hanifeiliaid, ac ni chaniateir i berson o dan 16 oed dywys tarw dros 10 mis oed
  15. Bydd gan Gyfarwyddwr Anrhydeddus Maes y Sioe yr hawl i ethol ei Arolygwyr a’i Stiwardiaid ei hun, a rhaid iddynt beidio bod yn Arddangoswyr yn eu Hadran eu hunain. Mae pob Swyddog yn y Sioe i weithio dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Anrhydeddus Maes y Sioe.
  16. Dylai pob protest gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig o fewn 30 munud i gwblhau beirniadu’r Dosbarth, oni bai fod rheswm dilys dros yr oedi, ynghyd â thâl o £25. Bydd pob protest yn cael ei chlywed gan y Pwyllgor Rheoli o fewn mis i ddiwrnod y Sioe ar wahân i’r adegau hynny, pan fo’n bosib, ble bydd Cyfarwyddwr Anrhydeddus Maes y Sioe a’r amrywiol Arolygwyr yn ystyried ac yn delio â phrotestiadau ar faes y Sioe ac yn adrodd am eu penderfyniad i’r Pwyllgor Rheoli yn eu cyfarfod nesaf.
  17. Bydd y Gymdeithas yn cymryd y gofal mwyaf o’r arddangosion, ac o unrhyw eiddo arall a roddir yn eu gofal, ond dylai Arddangoswyr neu Berchnogion arddangosion a phob person arall ddeall yn glir, na fydd y Gymdeithas yn gyfrifol am golled lwyr neu rannol, neu gadw, neu ddifrod i unrhyw arddangosyn, bocsys, hamperau, coleri, neu unrhyw eiddo arall wrth iddynt gael eu cludo, neu yn yr Arddangosfa naill ai drwy ddamwain neu unrhyw achos arall, neu drwy unrhyw weithred neu esgeulustra ar eu rhan eu hunain, eu swyddogion, gweision, neu eraill, ac ar y ddealltwriaeth yma’n unig y derbynnir ymgeiswyr.
  18. Bydd yn Gymdeithas yn dod o hyd i holl ffitiadau ac anghenion Maes y Sioe, gan gynnwys y Prif Eisteddle a bydd yn cymryd derbynneb sy’n codi o’r rhain.
  19. Ni chaniateir parcio cerbydau ar Faes y Sioe.
  20. Bydd rhai i bob arddangoswr a’r rhai sy’n gyflogedig ganddo, a phob person arall sy’n cael mynediad i Faes y Sioe ddilyn y rheolau fel y gosodir hwy gan Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint Cyf.
  21. Ni fydd dosbarthiadau eraill yn cael eu hychwanegu at y Rhaglen wedi ei chyhoeddi ar wahân i fân rai a dim ond ar gytundeb Cyfarwyddwr Anrhydeddus Maes y Sioe a’i Swyddogion.
  22. Dalier sylw Arddangoswyr – Ni fydd ad-daliad o’r Tâl Ymgeisio.
  23. Rhaid i bob enillydd ymddangos yn y Prif Barêd. Ni chaniateir symud anifeiliaid o faes y sioe cyn diwedd y Prif Barêd neu gellid fforffedu’r wobr ariannol.

DRWY ORCHYMYN Y PWYLLGOR RHEOLI

  1. Mae gan Gyfarwyddwr Maes y Sioe yr hawl i newid amser a lleoliad Beirniadu dosbarthiadau fel bo angen.
  2. Bydd y Sioe hon yn cael ei chynnal yn ôl rheolau cyfredol DEFRA a rhaid i bob arddangoswr gydymffurfio’n llawn â’r rheolau a osodir. Byddwn yn gwrthod mynediad i faes i sioe i unrhyw arddangoswr neu arddangosyn sydd ddim yn cydymffurfio ac ni chynigir ad-daliad.