English
 
 

Ffwr a Phlu

Ymysg y bantamiaid a’r ceiliogod, yr hwyaid a’r colomennod, mae’r rhan hon o’r Sioe plesio pobl y plu yn fawr iawn.

Ieir â chanddynt gapiau plu a socasau, ceiliogod gwych yn brasgamu a chanu – cewch weld lliwiau ac amrywiaethau o bob math yn yr adran ddofednod.

Mae wyau o frown tywyll i rai golau, golau yn llenwi’r ardal ddifyr hon.

Cerddwch drwodd at y colomennod i gyfarfod llymeitwyr a champwyr, rhai ffansi a hedfanwyr yn ogystal â rhai sioe a rhai rasio.

Ewch at y cytiau cwningod i gyfarfod â’r ffwr a’r recs, y corachod a’r clustlaes – ac os gofynnwch, efallai y cewch chi gwtsh bach!

Bydd plant ac oedolion wrth eu boddau yma, a rhaid ymweld â phabell y Ffwr a Phlu yn Sioe Dinbych a Fflint eleni.