Y Neuadd Fwyd

Arbrofwyd yn gyntaf â’r Neuadd Fwyd yn Sioe Dinbych a Fflint 2002, gyda chryn lwyddiant. Mae’r neuadd fwyd wedi tyfu mewn poblogrwydd a maint flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ddod yn atyniad pwysig yn y sioe. Noddir y Neuadd Fwyd eleni gan Cadwyn Clwyd, y WDA, DCC, FCC, Buffalo Gogledd Cymru, Parc Carafannau Parc Farm, Hufenfa De Arfon a Sainsbury’s.
Bydd 30 o gwmnïau bwyd yn arddangos yn y neuadd gan roi’r cyfle i ymwelwyr brofi eu dewis o gynnyrch lleol blasus a mynd â pheth ohono adref hefo nhw! Bydd y cynnyrch yn amrywio o gaws, cig, hufen iâ, organig, sudd afal, diodydd meddwol, pate, cynnyrch pobi lleol, cyffeithiau, siocledi a llawer mwy!
Bydd arddangosfeydd coginio’n digwydd ar hyd y dydd, gyda’r cogydd adnabyddus Dai Davies a gwesteion.

Arddangoswyr fydd yno eleni
- North Wales Buffalo
- Gorau Glas
- Tipyn Bach Chocolate Company
- Megans Kitchen
- Old Creamery Bottled Beers
- Toffoc
- Rhug Organic Farm
- Wyn & Glyn
- Condessa Welsh Liqueurs
- Celtic Spirit Co Ltd
- South Caernarfon Creameries




