English
 
 

Cefn gwlad

Galwch yn yr ardal Gefn Gwlad er mwyn gweld a dysgu am ffordd cefn gwlad o fyw. Siaradwch â chadwraethwyr, ciperiaid, dynion coed a choedwigwyr er mwyn gweld sut mae dyn yn gweithio yn yr oes hon er mwyn ceisio cadw cydbwysedd â natur.

Mwynhewch y rasio daeargwn gwyllt a cheisiwch benderfynu pwy sy’n dilyn pwy! Cewch gyfarfod y ffuredau direidus a chwarae mig â hwy. Cewch edmygu cyflymder a gosgeiddrwydd hebogyddiaeth gan Terry Large, y dyn trin adar poblogaidd a threulio amser yn siarad ag ef am ei adar a sut maent yn chwarae’u rhan yng nghefn gwlad.

Mwynhewch arddangosfa wych Charles Jardin, y pysgotwr plu – ac wedyn, yn bwysicach fyth, sut i baratoi a choginio’ch pysgodyn wedi i chi feistroli’r grefft.

Ewch i’r ardal grefftau coed i weld Paul, y Turniwr Polyn wrth iddo arddangos ei grefft gan ddefnyddio sgiliau ac egni naturiol yn unig.

Eisteddwch a mwynhewch yr arddangosfa cyfrwy- untu a siaradwch â’r merched am ei hanes a’i le ym myd marchogaeth. Eisteddwch i lawr i wylio’r gyrru car a cheffyl ac edmygwch eu sgil a’u gosgeiddrwydd.

Mae yna gyfoeth o wybodaeth am bob agwedd o fywyd cefn gwlad yn ardal Cefn Gwlad Sioe Dinbych a Fflint – mae’r holl bobl a welwch yno’n barod iawn i rannu eu gwybodaeth gyda chi a’ch teulu.