Amdanom Ni

Mae safle Sioe Dinbych a Fflint yng nghanol harddwch Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, Gogledd Cymru. Yn y blynyddoedd a fu, mae’r Sioe wedi teithio ar hyd a lled Siroedd y Fflint – oedd yn cynnwys Wrecsam – a Sir Ddinbych, gan aros am gyfnod hir ar gyrion y Rhyl. Wedi blynyddoedd o ystyried, digwyddodd y symud i’r safle presennol ar y Green, Dinbych yn 1990 drwy gytundeb â Mr EMW Griffith i gael defnyddio rhan o ‘stâd Tŷ Newydd.

Ers y flwyddyn gyntaf honno, mae sawl newid wedi digwydd i gynllun y safle dan oruchwyliaeth ofalus Cyfarwyddwyr Anrhydeddus Maes y Sioe a’u timoedd. Erbyn heddiw, arweiniodd hyn at y safle hawdd i’w ddilyn a welwn yn y Sioe bob blwyddyn.
Yn ogystal â’r prif ddigwyddiad undydd hwn, mae’r Gymdeithas yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a chodi arian eraill yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr aelodau a chefnogwyr oll. Mae’r rhain yn cynnwys swperau, ciniawau, gyrfa chwist, marchogaeth hwyl, sioeau ffasiwn, ac ar gyfer y rhai sy’n hoffi mentro, Clwb 100 ddwywaith y flwyddyn i’r aelodau.
Gyda’r Pwyllgor yn cyfarfod un ar ddeg o weithiau mewn blwyddyn, mae busnes y Gymdeithas a’r Sioe yn cael ei drafod yn gyson – hyd yn oed yng nghanol y Gaeaf! Mae dau aelod parhaol o staff swyddfa ac un neu ddau staff haf yn dod i ben â’r gwaith gan weithio o’n prif swyddfa yng nghanol Treffynnon. Ar ddiwrnod y Sioe, mae bron i 200 o wirfoddolwyr yn cyfrannu tuag at lwyddiant y diwrnod, ynghyd ag Arddangoswyr o’r radd flaenaf a Beirniaid o bob cwr o’r wlad yn rhannu miloedd o rosetiau, a chystadlu am bron i 150 o dlysau gwych yn yr amrywiol adrannau.
Pe hoffech ymwneud â’r Sioe neu’r digwyddiadau eraill, cysylltwch â ni yn y swyddfa drwy’r ddolen ganlynol a gadewch i ni wybod beth yn union yw’ch diddordeb.




